Our History

Sefydlwyd y Clwb yn Medi 1984 ar ôl i nifer o bobl yr ardal deimlo fod angen Clwb yn y Pentref er mwyn arbed holl chwaraewyr yr ardal fynd i chwarae i glybiau megis Arberth, Aberteifi, Abergwaun, Castell Newydd Emlyn a Hendy-gwyn. Roedd gan Ysgol y Preseli dimoedd cryf ar yr adeg hynny a pheth naturiol oedd bod nifer o'r bechgyn yn awyddus i chwarae rygbi ond heb orfod teithio yn rhy  bell ar gyfer yr ymarferion. Chwaraewyd y gêm gyntaf yn erbyn ail dîm Hendy-gwyn ym Mis Medi 1984.

Pwy fyddai wedi meddwl yr adeg honno, y byddai Clwb Rygbi Crymych ddeg mlynedd ar hugain yn ddiweddarach  yn chwarae Rygbi yng Nghynghrair Cyntaf Gorllewin Cymru.  Roedd  rhan fwyaf o'r timoedd mae Crymych yn eu chwarae  yn eu herbyn nawr,  wedi dathlu eu canfed pen-blwydd cyn i Glwb Rygbi Crymych  gael ei sefydlu.  Yn ystod y tri thymor diwethaf mae Crymych wedi chwarae yn erbyn timoedd adnabyddus iawn megis Maesteg a Dyfnant ac wrth gwrs wedi eu trechu.  Erbyn hyn, mae Crymych yn chwarae yn erbyn timoedd megis Hendygwyn, Athletic Caerfyrddin a Glyn nedd. Yn 1995 cafodd y clwb ei derbyn i'r Undeb, a'r flwyddyn ganlynol fe agorwyd ystafelloedd newid newydd ar Barc Lloyd Thomas.

Yn 2001 yn dilyn salwch Mrs Dilys Thomas y London House sef cartref y clwb ers ei sefydlu, daeth hi'n amser chwilio am bencadlys newydd, a thrwy haelioni Bill a Meima Evans y  Crymych Arms, cafwyd blwyddyn yn y Crymych Arms tra'n  chwilio am le ein hunain.  Mis Rhagfyr 2003, agorwyd un rhan o'r Clwb newydd, a'r Mis Gorffennaf canlynol agorwyd y clwb yn gyfan gwbl gan Glanmor Griffiths, Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru.

Cafwyd dyrchafiad i adran 3 ar ddiwedd tymor 2006 - 2007.  Ar ôl bod yn ffeinal Cwpan Sir Benfro dwywaith o'r blaen, fe gipiwyd y Cwpan am y tro cyntaf yn ei hanes yn 2010 ac am yr ail dro flwyddyn yn ddiweddarach. Roedd y tymor yma hefyd yn arbennig gan i'r tîm mynd yn  ddiguro drwy'r tymor gan dderbyn dyrchafiad i Ail Gynghrair y Gorllewin.   Dechreuad digon siomedig fu i'r tymor canlynol yn dilyn anafiadau ac afiechyd 11 o'r chwaraewyr fu yn chwarae yn rheolaidd y tymor cynt.  Collwyd nifer helaeth o'r gemau yn arwain i fyny at y Nadolig, ond fel roedd y chwaraewyr yn gwella o'i anafiadau ac yn dychwelyd i chwarae, fe wellodd perfformiad y tîm ac fe ddechreusant ennill unwaith yn rhagor a dringo fyny'r gynghrair i fod yn siŵr o sefyll yn y gynghrair.  Yn Nhymor 2012 -2013 cafwyd dechreuad ychydig yn araf, ond fel oedd y tymor yn mynd yn ei flaen, dringwyd i fyny'r tabl nes gorffen yn ail a sicrhau esgyniad arall, y tro yma i gynghrair gyntaf y gorllewin. 

Yr hyn sy'n gwneud Camp Clwb Rygbi Crymych yn hynod yw nad ydynt erioed wedi talu'r un geiniog i unrhyw chwaraewr am chwarae iddynt.  Mae chwaraewyr Crymych i gyd yn chwarae yno am eu bod eisiau chwarae dros y Clwb, a phwy all eu beio gan fod llwyddiant i'w gael yno o'r timoedd ifancaf i fyny drwy'r oedrannau i mewn i'r tîm Ieuenctid ac i fyny i'r tîm Hŷn. Mae mwyafrif ohonynt yn Gymry Cymraeg, ac wedi chwarae i dimoedd Iau'r Clwb ers yn wyth a naw mlwydd oed. Mae holl hyfforddwyr y Clwb yn Gymry Cymraeg lleol a'r rhan fwyaf o rheini wedi chwarae dros y clwb hefyd.    

Erbyn hyn Elgan Vittle, John Davies a Gavin Thomas sydd yn hyfforddi'r ddau dîm hŷn. Iwan James yw rheolwr y tîm cyntaf yn dilyn ymddeoliad Adrian Howells. Mae'r clwb yn ffodus iawn o gael nifer o fechgyn lleol yr ymatebydd cyntaf â'r frigâd dân yn aelodau gweithgar yn y clwb, Euros Edwards sydd yn edrych ar ôl cymorth cyntaf a ffysio'r chwaraewyr i'r ieuenctid yn ystod yr hyfforddi â'r gemau. 

Dyw'r adran Iau wedyn ddim yn mynd i adael y timoedd hŷn i gael y clod i gyd. Maent hwythau hefyd yn cael tymorhau llwyddiannus gan chwarae gemau yn rheolaidd dros y gaeaf a phan ddaw hi yn amser chwarae gemau Cwpan, maent yn  llwyddo i gael nifer o dimoedd i mewn i'r diwrnod terfynol y cwpan ar ddechrau Mis Mai a gwneud Clwb Rygbi Crymych yn hynod o amhoblogaidd yn flynyddol drwy gipio nifer o'r cwpanau mewn sawl gwahanol oedran.

Mae croeso i bawb yng Nghlwb Rygbi Crymych. Clwb Cymdeithasol Cymreig yw ac erbyn hyn, yn un o'r clybiau cryfaf a llwyddiannus yn Sir Benfro. Ymlaen Crymych.

|